Ein gweledigaeth - bod pob plentyn ac oedolyn yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel

  • Byddwn yn cydweithio er mwyn cadw plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n wynebu risg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel.
  • Cyflawnir hyn drwy sicrhau bod arfer diogelu, cynllunio strategol a chomisiynu ar draws yr holl asiantaethau partner yn gwella'n barhaus o ganlyniad i weithgarwch CYSUR a CWMPAS.
  • Amcan holl weithgarwch CYSUR a CWMPAS yw gwella canlyniadau i oedolion, plant a phobl ifanc a theuluoedd y rheini sy'n wynebu risg.

Beth yw CYSUR?

Cysur logo
  • CYSUR yw Bwrdd Diogelu Plant Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Mae CYSUR yn acronym ar gyfer Diogelu Plant a Phobl Ifanc: Uno'r Rhanbarth yn Saesneg ac mae hefyd yn ffurfio'r gair Cymraeg sy'n adlewyrchu nod y Bwrdd.
  • Mae CYSUR yn gyfuniad o'r Byrddau Diogelu Plant Lleol blaenorol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Beth yw CWMPAS?

Cwmpas logo
  • CWMPAS yw Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru.
  • Mae CWMPAS yn acronym am Gydweithio a Chynnal Partneriaeth wrth Ddiogelu Plant yn Saesneg ac mae hefyd yn ffurfio'r gair Cymraeg sy'n adlewyrchu nod y Bwrdd.
  • Mae cylch gwaith CWMPAS hefyd yn ymestyn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Pam cael Bwrdd Diogelu Rhanbarthol?

Sefydlwyd y trefniadau rhanbarthol er mwyn diwallu anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cwmpasu dros hanner tir Cymru, ac yn ffinio 9 sir Gymreig, yn ogystal â siroedd yn Lloegr. Poblogaeth y rhanbarth yw 516,000, ac mae 100,400 o'r rheini yn blant a phobl ifanc o dan 18 oed. At ei gilydd mae 37% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, gyda'r cyfrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.

Mewn ymateb i ddaearyddiaeth a phoblogaeth amrywiol y rhanbarth, mae CYSUR a 
CWMPAS yn cydnabod bod angen cynnal ffocws lleol a rhanbarthol.
Y pwrpas yn rhanbarthol yw cydgysylltu'r cyfeiriad strategol, cydweithredu, cysoni a gwella arfer ledled y rhanbarth.

Y pwrpas yn lleol yw cydgysylltu arfer lleol, a gweithio tuag at sicrhau bod trefniadau lleol er mwyn diogelu a hyrwyddo lles oedolion, plant a phobl ifanc sy'n wynebu risg yn effeithiol.

Aelodau Byrddau Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy'n pennu partneriaid y Bwrdd Diogelu a lefelau statws cynrychiolwyr partner ar Fyrddau Diogelu. Cynhelir y swyddogaethau statudol gan yr aelod-sefydliadau isod.

Awdurdodau Lleol Powys, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion:
  • Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau plant/oedolion lle nad arferir y cyfrifoldebau hyn gan y Cyfarwyddwyr a nodwyd uchod
  • Cyfarwyddwr Addysg
Heddlu Dyfed Powys:
  • Y Cofrestrydd Arolygol, neu yn ei absenoldeb, swyddog sydd yn rheng Prif Arolygydd o leiaf;
  • Yr unigolyn y mae'r Prif Swyddog wedi rhoi cyfrifoldebau penodol iddo mewn perthynas ag amddiffyn plant.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys:
  • Swyddog arweiniol y BILl ar gyfer gwasanaethau plant/oedolion neu swyddog arall sy'n atebol yn uniongyrchol i'r sawl sydd â lefel statws uwch er mwyn gweithio fel cynrychiolydd BILl yn lle'r swyddog arweiniol;
  • Ymarferydd meddygol cofrestredig sydd â chyfrifoldebau penodol mewn perthynas ag amddiffyn plant o fewn ardal y BILl;
  • Nyrs gofrestredig sydd â chyfrifoldebau penodol mewn perthynas ag amddiffyn plant a chyfarwyddwr nyrsio sydd â chyfrifoldeb penodol mewn perthynas ag amddiffyn plant o fewn ardal y BILl.
Iechyd Cyhoeddus Cymru:
  • Cyfarwyddwr gweithredol arweiniol diogelu plant ac oedolion yr Ymddiriedolaeth neu swyddog arall sy'n uniongyrchol atebol i'r sawl sydd â lefel statws digonol er mwyn gweithio fel cynrychiolydd yr Ymddiriedolaeth yn lle'r cyfarwyddwr gweithredol arweiniol.
Prawf Cymru / Cwmni Adsefydlu Cymunedol:
  • Y Prif Swyddog, cyfarwyddwr, neu unigolyn sydd â lefel statws digonol i gynrychioli'r Bwrdd yn lle'r Prif Swyddog.

Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, Llyfryn Sefydlu Aelodau'r Bwrdd

Llyfryn Sefydlu Aelodau'r Bwrdd

Ariannu’r Bwrdd

Caiff Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ei ariannu gan gyfraniadau partner, a’i reoli gan yr Uned Fusnes a chaiff yr arian hwnnw ei wario ar adnoddau a seilwaith sy’n cefnogi gwaith y Bwrdd a’n darpariaeth o ganlyniadau strategol.

Dros y flwyddyn ariannol ddiweddaf, mae’r gyllideb ranbarthol hon hefyd wedi’i defnyddio i ariannu hyfforddiant aml-asiantaeth pwrpasol a awgrymwyd gan adolygiadau ymarfer rhanbarthol ac i gomisiynu gwaith ymchwil i gefnogi swyddogaethau’r Bwrdd.