Diogelu Mewn Cymundau Gwledig

Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022: 13 i 19 Tachwedd 2023

Diogelu mewn Cymunedau Gwledig yw thema rhaglen eang ei chwmpas sy’n cael ei chynnal ar draws 
Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy’n dechrau ar 13 Tachwedd 2023. 
Cydlynwyd y rhaglen gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac eleni fe’i cynlluniwyd mewn 
ymateb i rai o’r materion sy’n dod i’r amlwg mewn ardaloedd gwledig megis y rhai yng Nghanolbarth a 
Gorllewin Cymru. 


Mae uchafbwynt yr wythnos yn cynnwys cynhadledd lansio ar gyfer ymarferwyr aml-asiantaeth, a gynhelir ar 
Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Bydd y ffocws ar Iechyd Meddwl o fewn cymunedau gwledig a bydd yn cynnwys cyflwyniadau a gweithdai i gefnogi'r thema hon. 


Yn ystod yr wythnos, byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynadleddau a gweminarau, a fydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar blant ac oedolion mewn perygl a’u hamlygu. 


Mae hyn yn cynnwys gweminar sy’n cael ei darparu gan heddlu Dyfed-Powys, sy’n ymdrin â rhaglen Prevent, yn egluro beth ydyw, yr ideolegau sy’n dod i’r amlwg y gall pobl agored i niwed ddod i gysylltiad â nhw, a beth 
maen nhw’n ei wneud i gefnogi pobl trwy gynllun Channel. Mewn gweminarau eraill, byddwn hefyd yn cael ein cyflwyno i’r strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol sydd newydd ei datblygu, yn cyflwyno sesiwn codi ymwybyddiaeth yn ymdrin â’r materion sy’n wynebu’r gymuned ffermio a gweminar ar Gam-drin Plant yn Rhywiol gyda staff o’r Ganolfan arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol (Canolfan CSA). 


Cefnogir y rhaglen ranbarthol gan ddigwyddiadau cenedlaethol a gynhelir ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn 
cynnwys lansio fframwaith hyfforddi a strategaeth newydd i gyd-fynd â’r safonau a lansiwyd y llynedd gan Gofal Cymdeithasol Cymru a digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar Ddadansoddiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Plant yng Nghymru.

Mae rhaglen lawn ar gael i'w lawrlwytho isod, ynghyd â dolenni i dudalennau digwyddiadau unigol lle byddwch hefyd yn dod o hyd i adnoddau sy'n ategu themâu allweddol eleni.

Rydym hefyd yn eich gwahodd i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol – Twitter @CYSURCymru, Facebook @CYSURCymru ac Instagram @cysurcymru am wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am ddiogelu drwy gydol yr wythnos.

Beth sydd ymlaen - Rhaglen o ddigwyddiadau

Rhaglen 2023 Canolbarth a Gorllewin Cymru