Adolygiadau Ymarfer Plant (CPRS)

Yn unol â Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015, mae gan Fyrddau Rhanbarthol Diogelu Plant gyfrifoldeb statudol i gynnal Adolygiad Ymarfer Plant amlasiantaethol yn achos digwyddiad o bwys lle y gwyddys fod plentyn wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu yr amheuir hynny.

Prif ddiben adolygiadau ymarfer, fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015, yw amlygu unrhyw gamau y gellir eu cymryd gan bartneriaid Bwrdd Diogelu neu gyrff eraill i wella ymarfer amddiffyn plant amlasiantaethol.

Er y gallai adolygiadau amrywio o ran ehangder a chymhlethdod, dylid eu cwblhau’n brydlon. Dylai gwersi a ddysgwyd o adolygiadau ymarfer gael eu lledaenu’n effeithiol a dylai unrhyw argymhellion gael eu rhoi ar waith yn brydlon fel bod y newidiadau sy’n ofynnol yn arwain, lle bynnag y bo’n bosibl, at amddiffyn plant rhag dioddefaint neu niwed yn y dyfodol. Lle y bo’n bosibl, dylid gweithredu ar wersi heb aros i’r adolygiad gael ei gwblhau o reidrwydd.

Nid ymchwiliadau i sut y bu farw plentyn neu sut y cafodd ei anafu’n ddifrifol, na phwy sy’n gyfrifol, yw adolygiadau ymarfer. Materion i grwneriaid a llysoedd troseddol yw’r rhain, yn ôl eu trefn, i benderfynu arnynt fel y bo’n briodol.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 2 – Adolygiadau Ymarfer Plant, mae dau fath o adolygiad:

Adolygiadau Cryno

Mae’n rhaid i Fwrdd Diogelu gynnal adolygiad ymarfer plant cryno yn unrhyw un o’r achosion canlynol lle, o fewn ardal y Bwrdd, y gwyddys fod plentyn wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu yr amheuir hynny, a bod y plentyn wedi;

  • Marw; neu
  • Ddioddef anaf a allai fygwth bywyd; neu
  • Ddioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad; ac

Nid oedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant nac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn ystod y 6 mis cyn -

  • Dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato uchod; neu’r
  • Dyddiad y mae’r awdurdod lleol neu’r partner perthnasol* yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad.

Adolygiadau Estynedig

Mae’n rhaid i Fwrdd Diogelu gynnal adolygiad ymarfer plant estynedig yn unrhyw un o’r achosion canlynol lle, o fewn ardal y Bwrdd, y gwyddys fod plentyn wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu yr amheuir hynny, a bod y plentyn wedi;

  • marw; neu
  • ddioddef anaf a allai fygwth bywyd; neu
  • ddioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad; ac

Roedd y plentyn ar y gofrestr amddiffyn plant a/neu’n blentyn a oedd yn derbyn gofal (gan gynnwys unigolyn 18 oed neu hŷn a fu’n derbyn gofal) ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn -

  • dyddiad y digwyddiad y cyfeirir ato uchod; neu’r
  • dyddiad y mae’r awdurdod lleol neu’r partner perthnasol* yn canfod bod plentyn wedi dioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad.

Adolygiadau Ymarfer Plant Rhanbarthol

Bydd adroddiadau ar bob Adolygiad Ymarfer Plant a gynhelir yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ar ôl iddynt gael eu cwblhau am gyfnod o 12 wythnos, yn unol â’r canllawiau (Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 2 – Adolygiadau Ymarfer Plant).

Am wybodaeth ar Adolygiadau Ymarfer Plant nad ydynt bellach ar gael ar ein gwefan, e-bostiwch: cysur@pembrokeshire.gov.uk.

Adolygiadau achos difrifol

Yng Nghymru, cyn i Fyrddau Rhanbarthol Diogelu Plant gael eu cyflwyno yn 2013, roedd Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau diogelu o dan A.32 (2) Deddf Plant 2004. Mae Rheoliadau Byrddau Lleol Diogelu Plant (Cymru) 2006 yn mynnu bod rhaid i’r Bwrdd Lleol Diogelu Plant ar gyfer yr ardal gynnal adolygiad achos difrifol lle y gwyddys fod plentyn wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu yr amheuir hynny, ac:

mae plentyn yn marw; neu

  • mae plentyn yn cael anaf a allai fygwth bywyd neu nam difrifol a pharhaol i’w iechyd neu ddatblygiad (gallai hyn gynnwys achosion lle mae plentyn wedi dioddef cam-drin rhywiol difrifol iawn).

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ym Mhennod 10: Adolygiadau Achos Difrifol yn y ddogfen Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004.  

O ran cyhoeddi adroddiadau, nid oedd Adroddiadau Cyffredinol Llawn Adolygiad Achos Difrifol wedi’u bwriadu i’w cyhoeddi. Mae Pennod 10.36 yn datgan ‘ym mhob achos, dylai adroddiad cyffredinol y Bwrdd Lleol Diogelu Plant gynnwys Crynodeb Gweithredol a fydd ar gael i’r cyhoedd, a dylai hwn gynnwys gwybodaeth am y broses adolygu, materion allweddol sy’n codi o’r achos, a’r argymhellion a wnaed, o

leiaf. Bydd angen cyhoeddi hwn ar yr adeg gywir i gyd-fynd â’r dyddiad y daw unrhyw achos llys cysylltiedig i ben. Bydd angen osgoi cynnwys unrhyw enw er mwyn gwarchod cyfrinachedd aelodau perthnasol y teulu ac eraill’. 

Mae llyfrgell yr NSPCC yn cynnwys rhestr gronolegol o’r holl Grynodebau Gweithredol, Adroddiadau Cyffredinol o Adolygiadau Achos Difrifol neu Adolygiadau Ymarfer Plant amlasiantaethol hanesyddol a gyhoeddwyd yn ôl blwyddyn. I chwilio eu cronfa ddata, cliciwch yma.

Dogfennau perthnasol:

Cylch Gorchwyl Is-Grwpiau Adolygu Ymarfer Pob Oed
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 2 – Adolygiadau Ymarfer Plant
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhan 7 Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhan 8 Cod Ymarfer ar Rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol)

CYSUR: Protocol Adolygiadau Ymarfer Plant – Ebrill 2017 (doc)

CYSUR: Atgyfeirio Achos i’r Is-grŵp Adolygiad Ymarfer Plant (doc)

CYSUR: Taflen Adolygiadau Ymarfer Plant (ar ddod)

Amddiffyn Plant yng Nghymru: Canllawiau ar y trefniadau ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant amlasiantaethol (pdf)
Amddiffyn Plant yng Nghymru: Adolygiadau Amddiffyn Plant – canllaw i drefnu a hwyluso digwyddiadau dysgu (pdf)
Rheoliadau Byrddau Lleol Diogelu Plant (Cymru) 2006 (pdf)