Croeso i Gylchlythyr cyntaf Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru!
Rydym yn falch o lansio'r cyhoeddiad hwn ar ôl llawer iawn o ddatblygu a chynllunio.
Bydd y bwletin chwarterol hwn yn rhoi'r prif ddiweddariadau rhanbarthol a chenedlaethol i chi sy'n digwydd yn y maes diogelu, gan gynnwys polisïau, deddfwriaeth ac adolygiadau ymarfer. Rydym hefyd yn gobeithio defnyddio'r platfform hwn fel modd o ddathlu arferion da yn lleol ac yn rhanbarthol, ac i'ch diweddaru gyda'r datblygiadau mewn meysydd allweddol sydd o ddiddordeb.
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau ein rhifyn cyntaf!