Adolygiadau Ymarfer Oedolion (APRS)

Yn unol â Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau (Cymru) 2015, mae gan Fyrddau Rhanbarthol Diogelu Oedolion gyfrifoldeb statudol i gynnal Adolygiad Ymarfer Oedolion amlasiantaethol yn achos digwyddiad o bwys lle y gwyddys fod oedolyn mewn perygl wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu yr amheuir hynny.

Prif ddiben adolygiadau ymarfer, fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015, yw amlygu unrhyw gamau y gellir eu cymryd gan bartneriaid Bwrdd Diogelu neu gyrff eraill i wella ymarfer amddiffyn oedolion amlasiantaethol.

Er y gallai adolygiadau amrywio o ran ehangder a chymhlethdod, dylid eu cwblhau’n brydlon. Dylai gwersi a ddysgwyd o adolygiadau ymarfer gael eu lledaenu’n effeithiol a dylai unrhyw argymhellion gael eu rhoi ar waith yn brydlon fel bod y newidiadau sy’n ofynnol yn arwain, lle bynnag y bo’n bosibl, at amddiffyn oedolion mewn perygl rhag dioddefaint neu niwed yn y dyfodol. Lle y bo’n bosibl, dylid gweithredu ar wersi heb aros i’r adolygiad gael ei gwblhau o reidrwydd.

Nid ymchwiliadau i sut y bu farw oedolyn neu sut y cafodd ei anafu’n ddifrifol, na phwy sy’n gyfrifol, yw adolygiadau ymarfer. Materion i grwneriaid a llysoedd troseddol yw’r rhain, yn ôl eu trefn, i benderfynu arnynt fel y bo’n briodol.

Adolygiadau Ymarfer Oedolion Rhanbarthol

Bydd adroddiadau ar bob Adolygiad Ymarfer Oedolion a gynhelir yn ardal Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon ar ôl iddynt gael eu cwblhau am gyfnod o 12 wythnos, yn unol â’r canllawiau (Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 3 – Adolygiadau Ymarfer Oedolion).

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 – Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 3 – Adolygiadau Ymarfer Oedolion, mae dau fath o adolygiad:

Adolygiadau Cryno

Mae’n rhaid i Fwrdd Diogelu gynnal adolygiad ymarfer oedolion cryno lle mae oedolyn mewn perygl nad yw, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad, wedi bod yn unigolyn y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau i’w amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod yn dilyn ymholiad gan awdurdod lleol, ac sydd wedi;

  • Marw; neu
  • Ddioddef anaf a allai fygwth bywyd; neu
  • Ddioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd.

Adolygiadau Estynedig

Mae’n rhaid i Fwrdd gynnal adolygiad ymarfer oedolion estynedig yn achos oedolyn mewn perygl sydd, ar unrhyw ddyddiad yn ystod y 6 mis cyn dyddiad y digwyddiad, wedi bod yn unigolyn y mae awdurdod lleol wedi penderfynu cymryd camau i’w amddiffyn rhag camdriniaeth neu esgeulustod yn dilyn ymholiad gan awdurdod lleol, ac sydd wedi;

  • marw; neu
  • ddioddef anaf a allai fygwth bywyd; neu
  • ddioddef nam difrifol a pharhaol i’w iechyd.

Adolygiadau achos difrifol

Yng Nghymru, cyn i Fyrddau Diogelu Rhanbarthol gael eu cyflwyno yn 2013, roedd trefniadau lleol ar waith ar gyfer cynnal Adolygiadau Achos Difrifol/Adolygiadau Rheoli Mewnol. 

Mae Canllawiau ar gyfer cynnal Adolygiad Achos Difrifol yng Nghymru ar gael yn Atodiad 2 Polisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed rhag Camdriniaeth (2010, a ddiweddarwyd ym mis Ionawr 2013).

Mae’r broses hon wedi’i disodli erbyn hyn gan Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru.

Dogfennau perthnasol:

Cylch Gorchwyl Is-Grwpiau Adolygu Ymarfer Pob Oed
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 3 – Adolygiadau Ymarfer Oedolion
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhan 7 Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Rhan 8 Cod Ymarfer ar rôl y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol)

CYSUR: Protocol Adolygiadau Ymarfer Oedolion – Gorffennaf 2017 (doc)

CYSUR: Atgyfeirio Achos i’r Is-grŵp Adolygiad Ymarfer Oedolion (doc)

CYSUR: Taflen Adolygiadau Ymarfer Oedolion (ar ddod)

Amddiffyn Plant yng Nghymru: Canllawiau ar y trefniadau ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Plant amlasiantaethol (pdf)
Amddiffyn Plant yng Nghymru: Adolygiadau Ymarfer Plant – canllaw i drefnu a hwyluso digwyddiadau dysgu (pdf)
Polisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed rhag Camdriniaeth (doc)
Rheoliadau Byrddau Lleol Diogelu Plant (Cymru) 2006 (pdf)