Strategaeth Hyfforddiant Diogelu Rhanbarthol Pob Oed

Busnes pawb yw diogelu pobl. Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWSB) yn ymroddi i ddarparu rhaglenni hyfforddiant amlasiantaethol o safon, er mwyn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau sector statudol a phreifat a’r trydydd sector i ddiogelu a hyrwyddo ffyniant pobl, gan gynnwys atal ac amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.

Strategaeth Hyfforddiant Diogelu Rhanbarthol Pob Oed (Gorffennaf 2018)

Seminarau, gweithdai a digwyddiadau

Gweler isod fanylion am seminarau, gweithdai, cynadleddau a digwyddiadau eraill yng Nghymru yn ymwneud â diogelu plant ac oedolion.

Gwnewch gais am le drwy'r darparwr uniongyrchol.

Mae gwybodaeth am Hyfforddiant faenol ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelu Cymru Gyfan ar gael ar wefan Cyngor Gofal Cymru.

Dim ond yr hyfforddiant a gynhelir yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a restrir isod. Am hyfforddiant mewn ardaloedd eraill, ewch i wefan Plant yng Nghymru

Rhaglen dreigl - Hafan Cymru

Gweler yr hysbysiad isod gan Hafan Cymru.

Bydd Gwasanaethau Hyfforddi Hafan Cymru yn cael eu cynnal ar raglen hyfforddi dreigl o fis Gorffennaf 2019 ymlaen. Bydd y cyrsiau yn cynnwys cyfleoedd gorfodol a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus.  Gweler gwefan Hafan Cymru am ragor o wybodaeth.

Ewch i: https://www.hafancymru.co.uk/training-courses/upcoming-training-events/ i weld dyddiadau a lleoliadau'r cyrsiau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn cwrs, anfonwch neges e-bost i trainingservices@hafancymru.co.uk i archebu eich lle.

 Mae disgrifiad byr o gynnwys pob cwrs unigol i'w weld yma:

https://www.hafancymru.co.uk/training-courses/hc-training-services/ (sgroliwch i lawr)