Y Bwrdd Gweithredol:

Mae Bwrdd Gweithredol Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymruyn fwrdd rhanbarthol trosfwaol sy'n ceisio monitro a gwella gweithgarwch diogelu rhanbarthol. Mae'r Bwrdd Gweithredol yn cynnwys uwch swyddogion o’r holl bartneriaid ac asiantaethau statudol allweddol (gweler y tabl aelodaeth uchod). Mae'r Bwrdd Gweithredol yn ceisio sicrhau ei fod yn darparu arweinyddiaeth a chyfarwyddyd cryf i’w holl bartneriaid statudol ac mae’n gwneud hyn drwy nodi blaenoriaethau strategol blynyddol a chanlyniadau dymunol o ran gweithgarwch ac ymarfer diogelu.  Mae'r Bwrdd Gweithredol hefyd yn gweithio'n agos gyda, yn cefnogi ac yn arwain Is-grwpiau lleol a rhanbarthol amrywiol y Bwrdd.

CWMPAS Bwrdd Gweithredol Cylch Gorchwyl (Rhagfyr 2016)
CYSUR Bwrdd Gweithredol Cylch Gorchwyl (Rhagfyr 2016)

Grwpiau Gweithredol Lleol:

Mae pob un o'r pedwar Awdurdod Lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnal Grwpiau Gweithredol Lleol (GGLl).  Mae pwrpas, aelodaeth a strwythur y GGLl hyn yn adlewyrchu rhai’r Bwrdd Gweithredol.  Ond prif nod y GGLl yw monitro a dadansoddi arferion diogelu yn lleol, yn hytrach nag yn rhanbarthol.  Mae'r aelodaeth yn cynnwys Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, sy'n cadeirio'r grŵp, uwch reolwyr a swyddogion o asiantaethau statudol lleol, gan gynnwys Iechyd, yr Heddlu a'r Gwasanaeth Prawf. Mae GGLl yn ceisio gwella arferion diogelu yn lleol trwy drafod gweithgarwch diogelu lleol mewn amgylchedd agored a thryloyw, rhannu a dadansoddi data lleol a chynnal archwiliadau o ymarfer. Mae GGLl yn ceisio rhannu a chydnabod enghreifftiau o arferion diogelu da eto byddant yn herio asiantaethau yn broffesiynol ac yn eu dal i gyfrif pan fydd arferion diogelu yn disgyn yn is na'r safonau a ddisgwylir.

Grwpiau Gweithredol Lleol Cylch Gorchwyl (Ebrill 2017)

Is-grŵp Adolygiadau Ymarfer Plant / Oedolion Rhanbarthol:

Mae'r Is-grŵp Adolygiadau Ymarfer Oedolion (AYO) ac Adolygiad Ymarfer Plant (AYP) yn ystyried atgyfeiriadau gan asiantaethau lle mae plentyn naill ai wedi marw neu wedi dioddef amhariad sylweddol ar iechyd a datblygiad o ganlyniad i gam-drin ac esgeulustod. Mae’r Is-grŵp AYO/AYP rhanbarthol yn ystyried gwybodaeth yn erbyn meini prawf a ddiffiniwyd o fewn 'Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 2/3 – Adolygiadau Ymarfer Plant/Oedolion’ ac yn gwneud argymhelliad i Gadeirydd CYSUR neu CWMPAS ynghylch a oes canlyniadau dysgu yn cael eu nodi ac a ddylai Adolygiad Ymarfer Plant/Oedolion gael ei wneud i ddysgu gwersi.  Cyflawnir Adolygiadau Ymarfer gan grŵp aml-asiantaeth o weithwyr proffesiynol sy’n dadansoddi gwybodaeth ar y cyd, ac yn nodi unrhyw themâu ymarfer a gwersi i’w dysgu. Yna caiff yr adroddiad ei gyhoeddi fel Adolygiad Ymarfer Oedolion/Plant ar wefan y Bwrdd.

CWMPAS Is-grŵp Adolygiadau Ymarfer Oedolion Rhanbarthol Cylch Gorchwyl (Ionawr 2017)
CYSUR Is-grŵp Adolygiadau Ymarfer Plant Rhanbarthol Cylch Gorchwyl (Ebrill 2018)

Is-grŵp Polisïau a Gweithdrefnau Rhanbarthol:

Mae’r Is-grŵp Polisïau a Gweithdrefnau’n gweithredu ar y cyd ac mewn cydweithrediad gyda Byrddau CYSUR a CWMPAS fel ei gilydd. Mae’r Is-grŵp hwn yn ceisio cynnig arweiniad i weithwyr proffesiynol trwy ddatblygu polisïau a gweithdrefnau rhanbarthol. Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau ar waith o fewn pob sefydliad. Prif amcan y Bwrdd yn 2017/18 yw gweithio tuag at ddatblygu’r rhain yn bolisïau a gweithdrefnau rhanbarthol er mwyn helpu hyrwyddo ymateb mwy cyson i arferion diogelu.

Is-grŵp Polisïau a Gweithdrefnau Rhanbarthol Cylch Gorchwyl (Ionawr 2017)

Is-grŵp Hyfforddiant Rhanbarthol:

Mae'r Is-grŵp Hyfforddiant hefyd yn gweithredu ar y cyd ac mewn cysylltiad â Byrddau CWMPAS a CYSUR ill dau.  Mae'n ceisio cefnogi ac arwain y gwaith o gyflwyno hyfforddiant diogelu a dysgu ar draws y pedair ardal awdurdod lleol a sefydliadau sy’n asiantaethau partner. Mae'r Is-grŵp Hyfforddiant yn gweithio'n agos gydag adrannau hyfforddi sefydliadol i sicrhau a hyrwyddo ansawdd a chysondeb hyfforddiant diogelu a darparu. Gall y grŵp gomisiynu hyfforddiant diogelu arbenigol, pwrpasol ar draws y rhanbarth ac mae’n gweithio'n agos gydag Is-grwpiau eraill megis yr Is-grŵp AYO/AYP i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau dysgu a nodwyd o ganlyniad i Adolygiadau Ymarfer Plant yn cael eu dosbarthu i'r staff.

Is-grŵp Hyfforddiant Rhanbarthol Cylch Gorchwyl (Ebrill 2017)

Busnes pawb yw diogelu pobl. Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWSB) yn ymroddi i ddarparu rhaglenni hyfforddiant amlasiantaethol o safon, er mwyn cynorthwyo gweithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn sefydliadau sector statudol a phreifat a’r trydydd sector i ddiogelu a hyrwyddo ffyniant pobl, gan gynnwys atal ac amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.

Strategaeth Hyfforddiant Diogelu Rhanbarthol Pob Oed (Gorffennaf 2018)

Fforwm Proffesiynol Amlasiantaethol (MAPF):

Mae MAPF yn rhan o’r rhaglen ddi-dor o ddysgu gweithredol ar draws rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru a bydd yn cadw golwg dros achlysuron dysgu o achosion a lledaenu ac archwilio dysgu o archwiliadau, arolygon, adolygiadau ac ymchwil.

MAPF Fforwm Cylch Gorchwyl (Gorffennaf 2018)

Cyfarfod Amlasiantaethol Camfanteisio ar Blant Cylch Gorchwyl (Ebrill 2023)

Mae bwrdd diogelu rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ymatebion priodol i fynd i'r afael â chamfanteisio ar blant drwy gydgysylltu ymdrechion amlasiantaethol yn well yn strategol ac yn weithredol. Mae hyn yn cynnwys parhau ac adolygu'n rheolaidd y modd y darperir cyfarfodydd Amlasiantaethol Camfanteisio ar Blant (MACE). Mae cyfarfod MACE yn digwydd ym mhob un o ranbarthau Canolbarth a Gorllewin Cymru ar lefel Awdurdod Lleol. Er bod gwahaniaethau o ran sut mae pob Awdurdod Lleol yn gweinyddu cyfarfodydd, mae'r cylch gorchwyl yn disgrifio fframwaith pob cyfarfod MACE.

Cyfarfod Amlasiantaethol Camfanteisio ar Blant Cylch Gorchwyl (Ebrill 2023)