cadw

Gelwir y Bwrdd Iau Diogelu Plant Rhanbarthol hefyd yn CADW (Children taking Action Differently in Wales).  Mae'r grŵp wedi'i ffurfio o bobl ifanc o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Diben CADW yw:

  • sicrhau bod pobl ifanc yn deall beth yw diogelu a chodi ymwybyddiaeth
  • gweithio ar ran pobl ifanc ledled y pedair sir
  • trafod sut i gadw pobl ifanc yn ddiogel
  • rhannu barn pobl ifanc
  • herio penderfyniadau'r Uwch Fwrdd Diogelu Rhanbarthol.

Fixers

Datblygwyd y clip fideo fel prosiect Fixers, wedi’i arwain gan Bethany Roberts, un o’n haelodau CADW. Cliciwch yma.

Mae Bethany, 17, o Aberdaugleddau, eisiau helpu pobl ifanc i adeiladu gwytnwch yn erbyn labeli.

bwrdd diogelu

"Dyma enghraifft o waith diogelu ar ei fwyaf blaengar. Mae’r bobl ifanc hyn yn bartneriaid cyfartal yn ein hymateb o ran diogelu, a’r her i’r byrddau diogelu rhanbarthol i oedolion, a’r bwrdd cenedlaethol yn wir, yw gwrando ar eu her ac ymateb yn briodol iddi." Keith Towler, Is-gadeirydd, BDGA

Darllenwch y blog Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar ymweliad CADW â Bwrdd Gweithredol CYSUR #Llaisplentyn

http://bwrdddiogelu.cymru/2017/09/05/safeguarding-voice-resilience/?noredirect=cy_GB

Cynhelir y cyfarfodydd yn chwarterol, naill ai ym Mhowys, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro yn eu tro.

Yn y cyfarfodydd, cafwyd adborth gan y bobl ifanc ar y gweithgareddau sirol unigol. Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys cynhadledd a gynhaliwyd ar Ddiogelwch yn Sir Benfro a chynhyrchiad DVD Gwrth-fwlio a wnaed gan BIDPLl Ceredigion - Sêr Saff.

Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys trafodaethau gydag ymwelwyr, megis aelodau o Fwrdd Gweithredol CYSUR a’r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.  Mae trafodaethau blaenorol hefyd wedi cynnwys sut gall CADW a gweithwyr gwasanaethau plant wella’r cydweithio, ynghyd â barn y grŵp ar sut y gellir cael cynrychiolaeth ehangach gan bobl ifanc.

(Os ydych am gymryd rhan, cysylltwch os gwelwch yn dda. Manylion cyswllt rhanbarthol isod)

Prif flaenoriaethau cyfredol grŵp CADW yw:

  • Camddefnyddio sylweddau
  • Iechyd meddwl
  • Cam-fanteisio’n rhywiol ar blant - gan gynnwys diogelwch ar-lein a secstio
  • Bwlio
  • Sut i adeiladau perthnasoedd iach

Awgrymiadau/Syniadau CADW dros welliannau:

  • Cwricwlwm ABCh gwell
  • Cyrsiau a hyfforddiant arall yn hytrach na fideos i gynnwys pynciau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
  • Sicrhau bod gwybodaeth gyfredol leol a chenedlaethol ynglŷn â ble i fynd am gymorth a chyngor ar gael mewn ysgolion.
  • Angen hyfforddiant manwl yn fwy cyson ar sut i ddelio gyda bwlio, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar weithwyr proffesiynol, ynghyd â phobl ifanc.
  • Atgyfnerthiad positif hefyd ei angen er mwyn annog ysgolion sy’n cymryd camau rhagweithiol i ddelio â bwlio.
  • Angen mwy o adnoddau er mwyn galluogi staff sy’n dysgu i gael amser i ymgymryd â dyletswyddau gofal bugeiliol.
  • Mae cydnerthedd yn rhan hanfodol o Ddiogelu - nodwyd bod angen mwy o gydnabyddiaeth a chefnogaeth i gylchoedd teuluol a chymdeithasol er mwyn adeiladau cydnerthedd.

Os ydych am ddarganfod mwy o wybodaeth am CADW ac/neu efallai am ymuno gyda’r Bobl Ifanc eraill ar fwrdd CADW neu eich bwrdd diogelu iau lleol, cysylltwch os gwelwch yn dda.

carms

Sir Gaerfyrddin - Cyngor Ieuenctid Sir Gar

Sarah Powell:

sjpowell@carmarthenshire.gov.uk

Ffôn: 07769305470

pembs

Sir Benfro - Junior Safeguardians

Nadine Farmer:

Nadine.Farmer@pembrokeshire.gov.uk

Ffôn: 01437 775295 - 07795 612917

cered

Ceredigion - Sêr Saff

Pete Bradley:

peter.bradley@tgpcymru.org.uk

Ffôn: 07768161452

DIWEDDARIAD PROSIECT SÊR DIOGEL CEREDIGION
GORFFENNAF 2022

 

powys

Sir Powys - Eat Carrots Be Safe from Elephants

Sera Coles:

Sera.Coles@tgpcymru.org.uk

Ffôn: 07398852149

Tros Gynnal Plant