Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn gweithredu o dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

x

Mae llesiant ei dinasyddion yn ganolog i bolisi a deddfwriaeth gyfredol Llywodraeth Cymru.  O fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae Llywodraeth Cymru yn ceisio diffinio a mesur llesiant ei dinasyddion mewn amrywiaeth o ffyrdd.  Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol a meddyliol, llesiant emosiynol, llesiant cymdeithasol ac economaidd, addysg, hyfforddiant a hamdden, yn ogystal â pha mor dda y mae ei dinasyddion yn cael eu hatal a'u hamddiffyn rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed. Felly mae'r angen i sicrhau bod dinasyddion Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu hatal a’u hamddiffyn yn ddigonol rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed yn swyddogaeth graidd ac yn gyfrifoldeb i Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn bod pob Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yn cynhyrchu Adroddiad Blynyddol i ddangos i ba raddau y mae’r Bwrdd Diogelu wedi rhoi ei gynllun blynyddol mwyaf diweddar ar waith. Felly, rydym yn falch o gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol ar gyfer Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2021-2022.

Ein hadroddiadau presennol:

CYSUR & CWMPAS Adroddiad Blynyddol 2022-2023

Adroddiadau blaenorol:

CYSUR & CWMPAS Adroddiad Blynyddol 2020-2021
CYSUR & CWMPAS Adroddiad Blynyddol 2018-19
CYSUR & CWMPAS Adroddiad Blynyddol 2017-18
CYSUR & CWMPAS Adroddiad Blynyddol 2016-17

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM BLENTYN -Cliciwch yma.

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM OEDOLYN - Cliciwch yma.