Mae Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn gweithredu o dan Ran 7 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

MAWWSB Annual Plan 2019 20 Final Page 01

Mae llesiant ei dinasyddion yn ganolog i bolisi a deddfwriaeth gyfredol Llywodraeth Cymru.  O fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae Llywodraeth Cymru yn ceisio diffinio a mesur llesiant ei dinasyddion mewn amrywiaeth o ffyrdd.  Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol a meddyliol, llesiant emosiynol, llesiant cymdeithasol ac economaidd, addysg, hyfforddiant a hamdden, yn ogystal â pha mor dda y mae ei dinasyddion yn cael eu hatal a'u hamddiffyn rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed. Felly mae'r angen i sicrhau bod dinasyddion Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cael eu hatal a’u hamddiffyn yn ddigonol rhag dioddef camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o niwed yn swyddogaeth graidd ac yn gyfrifoldeb i Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gofyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw bod y Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn cynhyrchu Cynllun Blynyddol yn gosod ei ddeilliannau strategol am y flwyddyn i ddod. Felly, rydym yn falch o gyflwyno ein Cynllun Blynyddol ar gyfer Byrddau Diogelu Plant ac Oedolion Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2020-21.

Ein cynllun presennol:

CYSUR & CWMPAS Cynllun Blyndyddol 2020-21

Cynlluniau blaenorol:

CYSUR & CWMPAS Cynllun Blyndyddol 2019-20
CYSUR & CWMPAS Cynllun Blyndyddol 2018-19
CYSUR Cynllun Blyndyddol 2017-18
CWMPAS Cynllun Blyndyddol 2017-18

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM BLENTYN -Cliciwch yma.

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM OEDOLYN - Cliciwch yma.