Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr Plant

Rhianta yw un o'r swyddi anoddaf y gall unrhyw un ei gwneud. Gall fod yn swydd heriol a gwerthfawr, a chredwn fod pob rhiant/gofalwr yn profi rhai anawsterau gyda hyn ar adegau. Mae cadw ein plant a'n pobl ifanc yn ddiogel rhag niwed yn bryder mawr drwy'r amser. Mae'r adnoddau rhianta isod yn rhoi gwybodaeth berthnasol i chi beth bynnag fo oedran eich plentyn.

Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau hyn yn adnodd ac yn ganllaw defnyddiol iawn i rieni a gofalwyr mewn perthynas â chadw plant yn ddiogel rhag niwed. Felly hoffem eich gwahodd i anfon e-bost atom yn cynnwys syniadau am sut i roi mwy o wybodaeth ar y dudalen, ei gwneud yn haws ei defnyddio ynghyd â rhannu unrhyw ddolenni cysylltiedig a allai fod o fudd i eraill. Mae eich barn yn bwysig i ni.

E-bost: CYSUR@pembrokeshire.gov.uk

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD):

Pwrpas y dudalen hon yw rhoi gwybodaeth i chi mewn perthynas â chadw plant a phobl ifanc yn ddiogel yng nghyd-destun y pynciau canlynol:

Sexting Facts

Kidscape LogoFpaChoices CymruNSPCC

Adnoddau ar-lein

Keeping Children Safe - a Guide for Parents and Carers
Keeping it Together: New Book for Parents Coping with CSE
Ffrind i Dy Deulu: Cefnogaeth a Chymorth i Rieni a Gwarcheidwaid yng Nghymru
Canllaw Gofal Gan Berthnasau i Gymru
Teenagers: sexual health and behaviour factsheet

‘Ni ddaethpwyd â nhw’ - ‘Heb Fynychu’

Mae Cyngor Dinas Nottingham, Grŵp Comisiynu Clinigol GIC Dinas Nottingham a Bwrdd Diogelu Plant Dinas Nottingham wedi comisiynu animeiddiad fideo ar y cyd er mwyn annog ymarferwyr i adnabod plant fel ‘Ni ddaethpwyd â nhw’ yn hytrach na ‘Heb Fynychu’ wrth gyfeirio at y ffaith nad oeddent yn bresennol mewn apwyntiadau meddygol.

Mae’r animeiddiad yn ffordd bwerus o’n hatgoffa nad yw plant yn mynd â’u hunain i apwyntiadau; rhaid i rieni neu ofalwyr fynd â nhw. Mae’r animeiddiad, felly, yn annog ymarferwyr i ystyried yr effaith y mae colli apwyntiadau yn ei gael ar les plentyn.

Nottscc LogoAm ragor o wybodaeth ynghylch Bwrdd Diogelu Plant Dinas Nottingham, ewch i www.nottinghamcity.gov.uk/ncscb os gwelwch yn dda.

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM BLENTYN -Cliciwch yma.