Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr - Oedolion

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n creu system gyfreithiol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, i rym yn Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn creu fframwaith sy’n dod â chyfreithiau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ynghyd ac yn eu moderneiddio, gan gynyddu’r pwyslais ar weithredu ataliol, ac yn dod â phobl yn agosach at benderfyniadau ynghylch y gwasanaethau sy’n effeithio arnyn nhw 

Un o’r newidiadau allweddol yw bod y term ‘oedolyn mewn perygl’ wedi disodli’r term ‘oedolyn bregus’, a chaiff ei ddiffinio fel oedolyn sydd

  1. yn profi neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod
  2. ag anghenion gofal a chymorth (pa un ai a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio), a
  3. o ganlyniad i’r anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu’r perygl ohono.

Bod yn Ofalwr yw un o'r swyddi anoddaf y gall unrhyw un ei gwneud. Gall fod yn swydd heriol a gwerthfawr, a chredwn fod pob gofalwr yn profi rhai anawsterau gyda hyn ar adegau. Mae cadw oedolion sy'n agored i niwed yn ddiogel rhagddo'n bryder mawr drwy'r amser. Gall yr adnoddau isod roi gwybodaeth berthnasol i chi.

Rydym yn gobeithio y bydd y tudalennau hyn yn adnodd ac yn ganllaw defnyddiol iawn i deuluoedd a gofalwyr mewn perthynas â chadw oedolion yn ddiogel rhag niwed. Felly hoffem eich gwahodd i anfon e-bost atom yn cynnwys syniadau am sut i roi mwy o wybodaeth ar y dudalen, ei gwneud yn haws ei defnyddio ynghyd â rhannu unrhyw ddolenni cysylltiedig a allai fod o fudd i eraill. Mae eich barn yn bwysig i ni.

E-bost: CWMPAS@pembrokeshire.gov.uk

Beth yw cam-drin?

Mae'r term cam-drin yn cwmpasu nifer helaeth o bethau megis ymddwyn yn gas ar bwrpas neu'n fwriadol, i rywun nad yw'n gwybod sut i drin rhywun arall yn iawn neu mewn ffordd briodol, neu rywun nad yw'n cael y cymorth a'r gefnogaeth berthnasol.

Mae'n bwysig atal achosion o gam-drin. Os bydd rhywun yn dioddef achos o gam-drin, mae'n bwysig ei archwilio.

Mathau o Gam-drin?

  • Rhywiol - trais, ymosodiad rhywiol, gweithredoedd rhywiol heb gydsyniad (er enghraifft os na all rywun gydsynio neu os ydynt yn cael eu rhoi dan bwysau)
  • Corfforol - slapio, gwthio, cicio, camddefnyddio meddyginiaeth, cosbau anaddas.
  • Llafar - cam-drin emosiynol, bygwth gwneud niwed, gwrthod cyfathrebu â phobl eraill, bygylu.
  • Ariannol - dwyn, twyllo, elwa ar dai, eiddo neu fuddiannau yn anonest.
  • Esgeulustod - anwybyddu anghenion meddygol neu ofal corfforol rhywun, methu â chael gofal iechyd neu ofal corfforol, neu beidio â rhoi meddyginiaeth, bwyd neu wres.
  • Priodas dan Orfod:

Mae Priodas dan Orfod yn digwydd pan na fydd dau berson wedi cydsynio iddo'n llwyr. Gall gorfodi gynnwys gorfodi corfforol, rhoi pwysau emosiynol ar unigolyn, cael eich bygwth neu ddioddef trais seicolegol. Nid yw priodasau dan orfod yr un peth â phriodasau wedi'u trefnu. Yn achos priodasau wedi'u trefnu, mae teuluoedd yn arwain y dasg o ddewis a chyflwyno partner i'w briodi ac mae'r cwpwl yn rhydd i dderbyn neu wrthod y trefniant.

  • Trais yn Seiliedig ar Anrhydedd:

Bydd hyn yn digwydd pan fydd aelod o'r teulu neu'r gymuned yn cosbi rhywun am ymddwyn mewn ffordd y maent yn credu sydd wedi dod â chywilydd neu warth. Gellir gwahaniaethu'r math hwn o drais o fathau eraill o drais, am y caiff ei wneud yn aml â rhywfaint o gyfranogiad neu gydweithrediad gan y teulu neu'r gymuned.

Mae cam-drin yn unrhyw beth sy'n mynd yn groes i hawliau dynol a sifil unigolyn. Gall ddigwydd yn unrhyw le, megis yn eu cartrefi eu hunain, cartref gofal neu ysbyty.

Os byddwch yn amau achos o gam-drin, Cliciwch yma.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn rhoi gwybod am achos o gam-drin?

X

Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn trefnu archwiliad yn unol â'r gweithdrefnau o dan Bolisi a Gweithdrefnau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion sy'n Agored i Niwed rhag cael eu Cam-drin. Gall hyn gynnwys sawl asiantaeth megis y Gwasanaethau Iechyd a'r Heddlu. Wedyn caiff camau eu cymryd i sicrhau y bydd yr oedolyn sy'n wynebu risg yn cael ei amddiffyn yn y dyfodol.

Os nad ydych yn siŵr a oes achos o gam-drin yn digwydd, mae'n dal i fod yn well trafod eich pryderon â rhywun sydd â'r profiad a chyfrifoldeb i gynnal archwiliad gwybodus nag i anwybyddu'r sefyllfa a allai arwain at rywun sy'n agored i niwed yn cael ei niweidio.

Pwy sy'n oedolyn sy'n agored i niwed / oedolyn sy'n wynebu'r risg?

cadair olwyn

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n creu system gyfreithiol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, i rym yn Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn creu fframwaith sy’n dod â chyfreithiau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ynghyd ac yn eu moderneiddio, gan gynyddu’r pwyslais ar weithredu ataliol, ac yn dod â phobl yn agosach at benderfyniadau ynghylch y gwasanaethau sy’n effeithio arnyn nhw 

Un o’r newidiadau allweddol yw bod y term ‘oedolyn mewn perygl’ wedi disodli’r term ‘oedolyn bregus’, a chaiff ei ddiffinio fel oedolyn sydd

  1. yn profi neu mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod
  2. ag anghenion gofal a chymorth (pa un ai a yw’r awdurdod yn diwallu unrhyw un o’r anghenion hynny ai peidio), a
  3. o ganlyniad i’r anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun rhag camdriniaeth neu esgeulustod neu’r perygl ohono.

Ffactorau sy'n gwneud oedolyn yn agored i niwed

  • Mae'n oedrannus ac yn eiddil o ganlyniad i salwch, neu os bydd ganddo anabledd corfforol neu nam gwybyddol
  • Mae ganddo anabledd dysgu
  • Mae ganddo anabledd corfforol a / neu nam ar y synhwyrau
  • Mae ganddo anghenion iechyd meddwl yn cynnwys dementia neu anhwylder personoliaeth
  • Mae ganddo salwch/cyflwr hirdymor
  • Mae'n camddefnyddio sylweddau neu alcohol
  • Mae'n ofalwr i rywun sy'n gweddu i'r diffiniad
  • Nid oes ganddo'r capasiti i wneud penderfyniad ac mae angen gofal a chymorth arno.

Deddf Galluedd Meddyliol

Cyflwynwyd Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005 er mwyn helpu unigolion na all wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys trosolwg o'r Ddeddf, ynghyd â gwybodaeth bellach. Gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Mae'r Deddf Galluedd Meddyliol yn effeithio ar bobl na allant wneud penderfyniadau eu hunain o ganlyniad i'r canlynol:

  • anabledd dysgu
  • dementia
  • problem iechyd meddwl
  • anaf pen
  • dibyniaeth ar gyffuriau, alcohol neu sylweddau eraill, neu
  • salwch aciwt, neu'r driniaeth ar ei gyfer.

Mae'r Ddeddf yn cwmpasu'r holl ddewisiadau mawr sy'n effeithio ar yr unigolyn megis sut y rheolir ei arian, a ph'un a ddylai gael triniaeth feddygol ai peidio. Mae'r Ddeddf yn gymwys i aelodau o'r teulu, ffrindiau neu staff Gofal Cymdeithasol sydd mewn cyswllt â'r unigolyn sydd â diffyg galluedd.

Mae'r Ddeddf hefyd yn ein galluogi i gynllunio ymlaen llaw rhag ofn bod diffyg galluedd meddwl gennym i wneud penderfyniadau pwysig yn y dyfodol, er enghraifft yn dilyn damwain neu salwch.

Mae'r gwerthoedd allweddol sy'n sail i'r Ddeddf wedi eu gosod mewn 5 egwyddor statudol:

  1. Cymerir yn ganiataol bob amser bod gan rywun alluedd meddyliol.
  2. Mae'n rhaid rhoi cymorth i bobl wneud eu dewisiadau eu hunain, os yw'n bosibl.
  3. Ni ddylid trin penderfyniad annoeth neu ecsentrig fel tystiolaeth o ddiffyg galluedd.
  4. Rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir ar ran rhywun â diffyg galluedd fod er budd iddo.
  5. Dylai unrhyw gamau a gymerir mewn perthynas â rhywun â diffyg galluedd gael yr effaith leiaf bosibl ar eu hawliau a'u rhyddid.

Penderfyniadau ar ran rhywun arall

I gael cymorth a chanllawiau i adnabod p'un a oes angen gwneud penderfyniad ar ran rhywun â diffyg galluedd, lawrlwythwch y siart llif.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Wefan Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA)

Mae Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol yn helpu mewn sefyllfaoedd penodol drwy gynnig cymorth a chynrychiolaeth i rywun â diffyg galluedd heb deulu neu ffrindiau i siarad ar eu rhan.

Isod mae gwybodaeth ar yr Eiriolwyr Galluedd Meddyliol Annibynnol ar gyfer Rhanbarth y Bae Gorllewinol sy'n cynnwys Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr.

Cyfeiriad: IMCA Cymru, 63 Stryd Nolton, Pen-y-Bont ar Ogwr, CF31 3AE

Rhif ffôn: 01656 649557

Ffacs: 01656 663397

E-bost: imca@imcawales.org neu imca@mhmwales.org

Gwefan: http://www.imcawales.org/

Trefniadau Diogelu Person rhag cael ei Amddifadu o'i Ryddid

Cyflwynwyd y Trefniadau Diogelu Person Rhag Cael ei Amddifadu o'i Ryddid (DoLS) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA) drwy Ddeddf Iechyd Meddwl 2007. Pwrpas y Trefniadau yw atal penderfyniadau mympwyol rhag cael eu gwneud sy'n amddifadu pobl sy'n agored i niwed o'u hawl i ryddid.

O bryd i'w gilydd, mae'n rhaid gosod cyfyngiadau ar bobl er mwyn eu diogelwch eu hunain. Ceir gwahanol gyfyngiadau, sy'n amrywio, er enghraifft, o gloi drws i atal corfforol. Ar ryw bwynt neu'i gilydd, mae graddfa a dwyster y cyfyngiadau hyn yn datblygu i fod yr hyn a elwir yn gyfreithiol yn 'amddifadu rhywun o'i ryddid'.

Rhaid i rywun fod â diffyg galluedd fel y diffinnir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 a chael ei ystyried yn un y mae angen awdurdodiad amddifadu person o'i ryddid arno.

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM OEDOLYN SY'N AGORED I NIWED - Cliciwch yma.