IICSA - Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol

Beth yw'r Ymchwiliad?

Mae’r Ymchwiliad yn ymchwilio i fethiannau’r gorffennol a’r presennol gan sefydliadau i ddiogelu plant rhag cam-drin rhywiol, i ddal y rhai sy’n gyfrifol i gyfrif, ac i wneud argymhellion i ddiogelu cenedlaethau o blant yn y dyfodol.

Pam y sefydlwyd yr Ymchwiliad?

Fe wnaeth yr Arolwg Troseddu yng Nghymru a Lloegr (2015/16) ganfod bod un o bob pedwar ar ddeg (7%) o oedolion rhwng 16 a 59 oed wedi hysbysu eu bod wedi bod yn ddioddefwr 
a goroeswr o gamdriniaeth rywiol o blant. Mae’n debygol bod llawer mwy o achlysuron sy’n mynd heb eu hysbysu a heb eu cyfrif. Sefydlwyd yr Ymchwiliad er mwyn datgelu ac unioni methiannau sydd wedi peri i hyn ddigwydd.

Sut all pobl helpu'r Ymchwiliad?

Gall unrhyw un a oedd wedi’i gam-drin yn rhywiol fel plentyn lle y bu methiant sefydliadol gyflwyno eu datganiadau mewn amgylchedd diogel, preifat, cyfrinachol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un a ddywedodd am eu cam-drin rhywiol wrth berson mewn awdurdod, lle na weithredwyd ar yr adroddiad yn briodol. Os ydych yn ddioddefwr neu’n oroeswr, neu os gallwch fod o gymorth i’r Ymchwiliad, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Defnyddio ein ffurflen ar-lein: www.iicsa.org.uk


Ffonio ein llinell Wybodaeth: 0800 917 1000


E-bostio ni: contact@iicsa.org.uk


Ysgrifennu atom: Freepost HEAD OFFICE (nid yw manylion eraill ynghylch y cyfeiriad yn ofynnol)