Bydd adolygiad o hunanladdiadau tebygol ymhlith plant ac oedolion ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru dros y 10 mlynedd ddiwethaf wedi'i gyflwyno mewn pedwar digwyddiad ar draws y rhanbarth.  

Cafodd yr adolygiad ei baratoi gan Dr Tom Slater o adnodd Ymchwil  Cascade a Phrifysgol Caerdydd gyda’r bwriad o gynyddu dealltwriaeth asiantaethau proffesiynol o’r broblem ac archwilio beth allai gael eu gwneud er mwyn rhwystro marwolaethau yn y dyfodol. Cafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Bydd Dr Slater yn cyflwyno canfyddiadau’r adolygiad i grŵp aml asiantaeth o ymarferwyr proffesiynol o bob rhan o’r ardal, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, ymarferwyr iechyd, swyddogion yr heddlu ac athrawon.

Dywedodd Dr Slater: “Hunanladdiad yw prif achos marwolaeth ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Mae’n broblem gymhleth ac amlweddog sy’n galw am ffyrdd lluosog o ymyriadau ar ystod o wahanol lefelau.

“Drwy gynnal adolygiad ar hunanladdiadau tebygol ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru mae modd i ni ddysgu mwy am y pwnc anodd hwn.

“Mae canfyddiadau’r ymchwil yn darparu cyfle i adnabod ymarfer da mewn ambell faes a gall gynorthwyo gyda dulliau gwaith ac ymyriadau’r dyfodol.”

Mae’r adolygiad yn dynodi ffactorau risg ar gyfer plant a phobl ifanc gan gynnwys:

  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE)
  • Profedigaeth
  • Dylanwad y cyfryngau cymdeithasol a grŵp cyfoedion 
  • Cam-drin sylweddau a phroblemau iechyd meddwl

Mae’r adolygiad yn dynodi ambell strategaeth bwysig ar gyfer ymarferwyr proffesiynol er mwyn rhwystro a lleihau’r niferoedd o blant a phobl ifanc sy’n cymryd eu bywydau eu hunain. Mae hyn yn cynnwys:  

  • darparu hyfforddiant addas a chefnogaeth ar gyfer ymarferwyr gofal cymdeithasol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn ogystal ag asiantaethau gwirfoddol anstatudol. 
  • pwysigrwydd sicrhau fod gwybodaeth ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, eu teuluoedd a’u hymarferwyr proffesiynol ynghylch lle allant gyrchu cefnogaeth a gwasanaethau ddylai gael eu hystyried mewn cyd-destun ehangach er mwyn hybu iechyd meddwl a lles sy’n gadarnhaol.

Adolygiad desg o achosion tebygol o hunanladdiad ymhlith plant ac oedolion ifanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru - Adroddiad Cryno

Mae copi pdf o'r PowerPoint a gyflwynwyd gan Dr Slater ar gael yma.

Ffynonellau cefnogaeth:

samaritans

Mae llinell gymorth y Samariaid ar gael pedair awr ar hugain y dydd. Ffoniwch 116 123 (yn rhad ac am ddim) neu e-bostiwch jo@samaritans.org.

dpj foundation

Nod y DPJ Foundation yw dileu'r gwarth sydd ynghlwm wrth iechyd meddwl a darparu gwasanaethau sy'n cefnogi'r rheiny mewn cymunedau gwledig. www.thedpjfoundation.com

Cascade Safeguarding