Ymgyrch Jasmine - gweminar ar-lein

Mewn cydweithrediad â'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Mawrth 15 Tachwedd 2022, 2:00pm i 4:00pm

 

Bydd y weminar ranbarthol hon yn rhoi trosolwg i gyfranogwyr o’r themâu a negeseuon allweddol a ddeilliodd o ‘Chwilio am atebolrwydd: Adolygiad o esgeulustod pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal a ymchwiliwyd fel Ymgyrch Jasmine’, yn ogystal â safbwynt rheoleiddwyr gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a safbwynt iechyd lleol, a bydd yn cynnwys mewnbwn gan aelod teulu yr effeithiwyd yn uniongyrchol arno gan y digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag Ymgyrch Jasmine.

Hwyluswyr:

  • Margaret Flynn — Comisiynwyd Margaret Flynn gan Brif Weinidog Cymru i adolygu’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag Ymgyrch Jasmine yn ‘Chwilio am atebolrwydd: Adolygiad o esgeulustod pobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal a ymchwiliwyd fel Ymgyrch Jasmine’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2015. Hi oedd cadeirydd cyntaf y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Mae’n gyfarwyddwr Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ac yn un o olygyddion The Journal of Adult Protection. Yn 2021, cynhaliodd Margaret adolygiad yn Ysbyty Cawston Park yn Norfolk. Yn gynharach eleni, daeth yn gadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
  • Margaret Rooney — Margaret Rooney yw Dirprwy Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Ymunodd Margaret ag AGC yn 2013, ac mae wedi cyflawni sawl rôl, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhanbarthol, arwain ar weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a Phennaeth Cofrestru a Gorfodi. Bu’n cynrychioli AGC yn y cwestau i farwolaethau saith o bobl yn gysylltiedig ag Ymgyrch Jasmine. Symudodd Margaret i Gymru yn 2002, lle bu’n gweithio ym maes gwasanaethau plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Bu’n gweithio wedyn ym maes cyfiawnder ieuenctid fel Pennaeth Gwella Perfformiad ar Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.

Gwesteion y Panel:

  • Jill Patterson - Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Claire Aston - Mae Claire yn arbenigwr mewn gofal hirdymor a manylion cymhlethdodau iechyd a gofal cymdeithasol oedolion. Mae newydd ymddeol o’r GIG, lle bu ganddi amrywiaeth o rolau uwch iawn fel nyrs a rheolwr gyda 40 mlynedd o brofiad, yn gweithio yng Nghymru a Lloegr. Ym mis Mawrth 2021, rhoddodd Claire dystiolaeth yn y cwest i farwolaethau sy’n gysylltiedig ag Ymgyrch Jasmine, mewn perthynas â mesurau diogelu ac arferion presennol wrth gomisiynu gofal.
  • Loraine Brannan Mae Lorraine Brannan yn aelod uniongyrchol o deulu un o’r dioddefwyr sy’n gysylltiedig ag Ymgyrch Jasmine a bydd yn rhannu ei phrofiadau gyda chyfranogwyr ac yn rhan o’r panel.
CYNULLEIDFA DARGED

Bydd y weminar hon yn addas ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, gwaith cymdeithasol, comisiynwyr, swyddogion heddlu, gweithwyr iechyd proffesiynol, rheolwyr cartrefi gofal a nyrsio, byrddau partneriaeth rhanbarthol a sefydliadau trydydd sector perthnasol.

Ymgyrch Jasmine - taflen ddigwyddiadau