Meddyliwch am y teulu — gweld yr oedolyn, gweld y plentyn
SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2022, 9am i 11am
Mae'r weminar hon ar gyfer ymarferwyr a rheolwyr ar draws gwasanaethau plant ac oedolion y mae eu rolau a'u cyfrifoldebau'n cynnwys diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. Bydd y weminar yn edrych ar ddysgu o adolygiadau diogelu oedolion ac adolygiadau o achosion difrifol (adolygiadau o arferion diogelu plant bellach) yn Lloegr, ac adolygiadau o arferion plant yng Nghymru. Bydd yn nodi pam mae’n rhaid i ymarferwyr a rheolwyr “gadw'r teulu mewn cof” bob amser a gweld yr oedolyn yn ogystal â’r plentyn. Bydd yn amlygu elfennau craidd y dull hwn o ymarfer, ac yn rhoi cyfle i gyfranogwyr drafod beth sy’n galluogi a beth sy’n rhwystro'r meddylfryd o “gadw'r teulu mewn cof” yn eu profiad gwaith.
CYNULLEIDFA DARGED
Bydd y weminar hon yn addas ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr gwaith cymdeithasol, uwch reolwyr strategol, swyddogion heddlu, rheolwyr gofal cartref, gweithwyr iechyd proffesiynol, nyrsys ardal a sefydliadau trydydd sector.

HWYLUSYDD:
Mae Michael Preston-Shoot yn Athro (Emeritws) mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Swydd Bedford, Lloegr. Mae'n Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol ac yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Mae ei gyhoeddiadau, ei waith ymchwil a'i hyfforddiant wedi canolbwyntio ar y gyfraith ac arferion gwaith cymdeithasol. Mae’n Gadeirydd Annibynnol Byrddau Diogelu Oedolion Lewisham a Brent, ac mae wedi ysgrifennu sawl adolygiad ar ddiogelu oedolion, yn ogystal ag ymgymryd ag ymchwil thematig ehangach sy’n archwilio patrymau a thueddiadau mewn arferion diogelu.