Lansio animeiddiad diogelu gyda'r Comisiynydd Plant
Ein digwyddiad blaenllaw am yr wythnos fydd lansio a dathlu adnodd hyfforddi diogelu ac animeiddiad fideo ar gyfer gweithwyr proffesiynol, a gynhelir yn Stadiwm Parc-y-Scarlets yn Llanelli. Mae’r animeiddiad fideo wedi’i greu gan blant a phobl ifanc o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys fel rhan o waith y Bwrdd Iau.
Bydd y prif anerchiad yn cael ei gyflwyno gan y Comisiynydd Plant newydd, Ms Rocio Cifuentes
Cynhelir y digwyddiad ddydd Gwener, 18 Tachwedd 2022, o 10am tan 1pm
Anfonwch unrhyw ymholiadau at cysur@sir-benfro.gov.uk