Hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant plant a phobl ifanc ers pandemig COVID-19

Mewn cydweithrediad â Thîm Mewngymorth Ysgolion Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS)

SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS Dydd Mercher, 16 Tachwedd 2022, 4:30pm i 6:30pm

Amcan Dysgu:
  • Archwilio’r hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc, i allu datblygu a thyfu, gan gyfeirio’n benodol at eu hiechyd a’u llesiant emosiynol
  • Archwilio sut y gallai rhagofalon a rheoliadau pandemig COVID-19 fod wedi effeithio ar yr hyn y byddai plant a phobl ifanc wedi elwa ohono i’w cynorthwyo yn eu twf a’u datblygiad emosiynol.
  • Archwilio'r canlyniadau lleol hyd yn hyn
  • Rhannu strategaethau i hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol
  • Rhannu manylion am gyflwyno'r Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion yn genedlaethol
Cyflwynwyr
  • Gail Morris: Gail yw Arweinydd Tîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS Powys, mae gan Gail gefndir mewn bydwreigiaeth, ymweliadau iechyd a bu’n gweithio mewn Timau Plant sy’n Derbyn Gofal a Diogelu yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Mae Gail wedi ymrwymo i gefnogi iechyd a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc, sydd wedi’u dylanwadu gan brofiadau gwaith dros ei gyrfa 25+ mlynedd yn y GIG, ac fe wnaeth hyn ei hysbrydoli i geisio gweithio yn y Tîm Mewngymorth Ysgolion ym Mhowys. Cred Gail fod gan y Gwasanaeth Mewngymorth Ysgolion y potensial i godi ymwybyddiaeth a chreu cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar i gefnogi plant a phobl ifanc ac mae'n edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn.
  • Stephen Lloyd: Mae Stephen yn ymarferydd yn Nhîm Mewngymorth Ysgolion CAMHS Powys ac mae wedi bod yn Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ers 9 mlynedd. Mae Stephen wedi gweithio yn y gorffennol mewn Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar ac Atal a CAMHS Arbenigol yng Ngogledd Cymru a Phowys ac wedi gweithio yn y sector preifat ar gyfer gwasanaethau asesu awtistiaeth. Mae Stephen bellach yn gweithio yn Nhîm Mewngymorth CAMHS Powys, er mwyn rhoi cymorth i ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc trwy ddull ymyrraeth gynnar ac atal, rhywbeth y mae bob amser wedi teimlo ei fod yn flaenoriaeth allweddol. Mae Stephen yn gweld y fenter Mewngymorth Ysgolion fel prosiect cyffrous a allai wneud gwahaniaeth mor bwysig i bobl ifanc yng Nghymru wrth eu helpu i gyrraedd eu llawn botensial.

 

CYNULLEIDFA DARGED

Bydd y weminar hon yn addas ar gyfer athrawon ysgol, ysgolion annibynnol, nyrsys ysgol, staff gofal cymdeithasol, penaethiaid, swyddogion llesiant ysgolion, gwasanaethau ataliol perthnasol, gweithwyr ieuenctid, arweinwyr diogelu ysgolion, athrawon a darlithwyr addysg bellach, staff cymorth bugeiliol ysgolion, gweithiwr cymdeithasol a thimau cyfiawnder ieuenctid rhanbarthol.

Hybu iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant plant a phobl ifanc - taflen ddigwyddiadau