Diogelu plant sy’n byw gyda gofalwyr maeth, mabwysiadwyr a gwarcheidwaid arbennig: Dysgu o adolygiadau achos 2007-2019

SEMINAR BYW DROS MICROSOFT TEAMS: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2022, 9:45am i 12:30pm

 

Mae’r weminar hon yn seiliedig ar themâu a negeseuon allweddoly cyhoeddiad uchod gan CoramBAAFF, a seiliwyd ar astudiaeth ledled y DU o 52 o adolygiadau achos yn ymwneud â 98 o blant a oedd wedi profi niwed difrifol wrth fyw gyda gofalwyr maeth, mabwysiadwyr neu warcheidwaid arbennig. Mae’r astudiaeth yn
ymestyn dros 12 mlynedd, a dyma’r gyntaf i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar adolygiadau o achosion o blant mewn gofal teuluol amgen. Mae'n amlygu'r materion hynny sy'n benodol i'r plant hyn – dewis ac asesu gofalwyr; cymorth i blant a gofalwyr; a goruchwylio a rheoli trefniadau.

Mae’r astudiaeth hon yn nodi materion o bryder sy’n codi dro ar ôl tro mewn adolygiadau achos, gan gynnwys:

  • asesu a dewis gofalwyr: archwilio cymhellion, bylchau mewn gwybodaeth, materion sensitif, agwedd gofalwyr, a rheoli amheuaeth ac ansicrwydd;
  • cadw’r plentyn wrth wraidd yr arferion: gwella'r gwaith o gynllunio lleoliadau, adolygu llesiant plant, gwrando ar blant, a monitro plant sy'n agored i niwed yn agos;
  • cefnogi gofalwyr: lefel yr oruchwyliaeth, effaith pwysau sefydliadol, cynnal gwrthrychedd;
  • bod yn ymwybodol o’r rhagdybiaeth o ddiogelwch mewn gofal maeth a mabwysiadu: amharodrwydd i archwilio anesmwythder, gofyn cwestiynau am blentyn absennol, osgoi dylanwadu, a chynnal awdurdod;
    cyfathrebu a chydweithio effeithiol: rhwng asiantaethau, gan gynnwys asiantaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac eglurder ynghylch cyfrifoldebau i rannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau ac ar draws yr awdurdod lleol
HWYLUSWYR
  • Yr Athro Hedy Cleaver: Mae'r Athro Hedy Cleaver yn athro emeritws yng Ngholeg Brenhinol Holloway, Prifysgol Llundain. Mae ei phrofiad fel gweithiwr cymdeithasol a seicolegydd plant yn llywio ei hymchwil i blant a theuluoedd sy'n agored i niwed ac effaith ymyriadau proffesiynol. Yr egwyddor arweiniol sy’n sail i’w gwaith yw'r awydd i wella ansawdd bywyd plant sy’n byw mewn amgylchiadau sy’n eu rhoi mewn perygl o gael eu cam-drin a/neu eu hesgeuluso.
  • Wendy Rose OBE: Fel prif Arolygydd Cynorthwyol, roedd gan Wendy Rose OBE gyfrifoldebau dros bolisi plant yn yr Adran Iechyd, yn dilyn profiad o waith cymdeithasol a rheoli ar lefel uwch yn y GIG ac i awdurdod lleol. Fel Uwch-gymrawd Ymchwil yn y Brifysgol Agored, bu’n gweithio ar brosiectau ymchwil a datblygu. Mae wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru ar ei diwygiadau diogelu, ac roedd yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae wedi cyhoeddi'n eang, gan gynnwys yr ail ddadansoddiad dwyflynyddol cenedlaethol o adolygiadau o achosion difrifol, Improving Safeguarding Practice, ar gyfer yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (2008) yn Lloegr, a gyhoeddodd gyda Julie Barnes.
CYNULLEIDFA DARGED

Bydd y weminar hon yn addas ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, rheolwyr gwaith cymdeithasol, swyddogion adolygu annibynnol, gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu, cadeiryddion paneli maethu, gwasanaethau ataliol perthnasol, gweithwyr iechyd proffesiynol a swyddogion heddlu.