Cynhadledd cam-drin domestig aml-asiantaeth
Heddlu Dyfed–Powys
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal cynhadledd cam-drin domestig aml-asiantaeth ddydd Iau, 17 Tachwedd ym mhencadlys yr heddlu yng Nghaerfyrddin.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys y rhai sydd â phrofiad byw o gam-drin domestig, a bydd cynrychiolwyr yn cael eu gwahodd i fynychu gweithdai sy'n canolbwyntio ar waith aml-asiantaeth.
Hyd: 9:30 i 4pm
Cyrraedd a Chofrestru: 9:15am
Cyfeiriad: Pencadlys yr Heddlu, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PF
Digwyddiad wyneb yn wyneb yw hwn ond bydd opsiwn ar-lein ar gael lle bo angen.
Anfonwch unrhyw ymholiadau at Sharon.Thomas@dyfed-powys.police.uk