Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022: 14 i 18 Tachwedd 2022
Symud ymlaen a gwella o'r pandemig
Mae gwrando ar blant a chadw plant ac oedolion sydd mewn perygl yn ddiogel yn greiddiol i raglen eang sy’n cael ei chynnal ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer yr Wythnos Genedlaethol Diogelu, sy’n dechrau ar 14 Tachwedd 2022. Mae’r rhaglen wedi’i chydlynu gan CWMPAS a CYSUR, y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac mae wedi’i chynllunio mewn ymateb i rai o’r heriau y mae plant ac oedolion sydd mewn perygl yn eu hwynebu ar eu taith wrth adfer o bandemig COVID-19.
Un o uchafbwyntiau'r wythnos yw lansio a dathlu adnodd hyfforddiant diogelu ac animeiddiad fideo ar gyfer gweithwyr proffesiynol. Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Stadiwm Parc y Scarlets yn Llanelli. Mae’r animeiddiad fideo wedi’i greu gan blant a phobl ifanc o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys a bydd yn cael ei lansio’n ffurfiol gan Gomisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.
Yn ystod yr wythnos, byddwn hefyd yn cynnal ystod o ddigwyddiadau, gan gynnwys cynadleddau a gweminarau, a fydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o faterion sy'n effeithio ar blant ac oedolion mewn perygl a’u hamlygu. Mae hyn yn cynnwys cynhadledd amlasiantaeth ar gam-drin domestig sy’n cael ei chynnal gan Heddlu Dyfed–Powys, gweminar yn ailedrych ar rai o’r themâu sy’n gysylltiedig ag adolygiad Ymgyrch Jasmine i esgeuluso pobl hŷn mewn cartrefi gofal, a digwyddiad wedi’i anelu’n benodol at ysgolion a staff addysg i hyrwyddo iechyd a lles emosiynol cadarnhaol plant ar ôl y pandemig. Mewn gweminarau eraill, byddwn hefyd yn dysgu o adolygiadau achos gyda phwyslais ar ddiogelu plant sy’n byw gyda gofalwyr maeth, mabwysiadwyr a gwarcheidwaid arbennig, a nodi pam mae’n rhaid i ymarferwyr a rheolwyr “feddwl am y teulu” bob amser ac ystyried yr oedolyn yn ogystal â’r plentyn.
Cefnogir y rhaglen ranbarthol gan ddigwyddiadau cenedlaethol a gynhelir ar draws Cymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys lansio safonau hyfforddi amlasiantaeth newydd sy’n cael eu harwain gan Gofal Cymdeithasol Cymru a digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol mewn cydweithrediad â’r Uned Atal Trais ar lunio dyfodol diogelu yng Nghymru.
Mae rhaglen lawn ar gael i'w lawrlwytho isod, ynghyd â dolenni i dudalennau digwyddiadau unigol lle byddwch hefyd yn dod o hyd i adnoddau sy'n ategu themâu allweddol eleni.
Rydym hefyd yn eich gwahodd i’n dilyn ar gyfryngau cymdeithasol – Twitter @CYSURCymru a @CWMPASCymru, Facebook @CYSURCymru ac Instagram @cysurcymru am wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am ddiogelu drwy gydol yr wythnos.
Beth sydd ymlaen - Rhaglen o ddigwyddiadau
Rhaglen 2022 Canolbarth a Gorllewin Cymru
Digwyddiadau Rhanbarthol
Diogelu plant sy’n byw gyda gofalwyr maeth, mabwysiadwyr a gwarcheidwaid arbennig: Dysgu o adolygiadau achos 2007-2019
Ymgyrch Jasmine
Meddyliwch am y teulu - gweld yr oedolyn, gweld y plentyn
Hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a llesiant plant a phobl ifanc ers pandemig COVID-19
Heddlu Dyfed-Powys - Cynhadledd aml-asiantaeth ar gam-drin domestig
Grŵp iau rhanbarthol - Lansio animeiddiad diogelu gyda'r Comisiynydd Plant