Nid yw bwlio yn dderbyniol ar unrhyw adeg

Gall bwlio gael effaith negyddol hirdymor ar les meddyliol a chorfforol plentyn. Nid yw bwlio yn dderbyniol AR UNRHYW ADEG ac mae’n bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth am bob math o fwlio fel y gallwn geisio’i atal rhag digwydd, ac os oes achos o fwlio yn digwydd mae’n bwysig fod cefnogaeth ar gael.

BWLIO: ymddygiad sy’n digwydd drosodd a throsodd, gyda’r bwriad o frifo rhywun yn emosiynol neu yn gorfforol.

Mae gwahanol fathau o fwlio yn gallu digwydd, gan gynnwys bwlio corfforol, ar lafar, yn gymdeithasol neu seiber-fwlio.

Arwyddion posib fod plentyn yn cael ei fwlio:

Efallai na fydd rhywun sy’n cael ei fwlio yn arddangos unrhyw arwyddion i’ch rhybuddio, ond cadwch lygad allan am y rhain:

  • Salwch aml
  • Newidiadau mewn arferion bwyta
  • Anhawster cysgu
  • Ddim eisiau mynd i’r ysgol
  • Colli diddordeb yn yr ysgol
  • Diffyg hunan-barch
  • Niweidio ei hunan

Beth allaf ei wneud i helpu i godi ymwybyddiaeth o fwlio?

Gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth o fwlio mewn nifer o ffyrdd. Efallai y gallwch drefnu dadl gwrth-fwlio yn eich ysgol neu ofyn i’ch athrawon i gynnal gwasanaeth ar y thema gwrth-fwlio. Gellir dod o hyd i adnoddau defnyddiol yma.

Gwaith gwrth-fwlio a wneir gan bobl idanc yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Crëwyd fideo gwrth-fwlio gan gynrychiolwyr ifanc Sêr Saff, - Bwrdd Iau Diogelu Plant Ceredigion.  Bu Grŵp Ieuenctid Aberdaugleddau yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a rhoi terfyn ar fwlio i bobl ifanc yn eu canolfan ieuenctid.

Bu Grŵp Ieuenctid Aberdaugleddau yn gweithio i godi ymwybyddiaeth a rhoi terfyn ar fwlio i bobl ifanc yn eu canolfan ieuenctid.

Er mwyn hyrwyddo ein thema ymhlith pobl ifanc, heriodd Ceredigion grwpiau ieuenctid i gynllunio poster i’w ddefnyddio’n lleol. Cynlluniwyd y poster buddugol (isod) ‘Seiberrfwlio – paid â bod yn flin tu ôl i’r sgrin’ gan Tyler o Ysgol Penglais a Penparcau clwb ieuenctid.  Da iawn, Tyler!