Beth yw Bwrdd Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru?

Grŵp o bobl o wahanol sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, fel y Gwasanaethau Cymdeithasol a'r NSPCC yw'r Bwrdd. Mae'r grŵp yn cwrdd ac yn cynllunio sut y gallant gydweithio er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae'r Bwrdd yn trafod materion megis bwlio ar-lein, esgeulustod a thrais, byw mewn amgylchedd diogel gartref ac yn y gymuned, a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â CYSUR, cliciwch yma.

Llinell gymorth gyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc y DU yw Childline er mwyn iddynt drafod unrhyw broblemau sydd ganddynt. Gallwch siarad â nhw am unrhyw beth.

Speak Out Stay SafeMae Speak Out Stay Safe (Gwasanaeth Ysgolion Childline yn flaenorol) ar gyfer plant Ysgol Gynradd. Gallant eich helpu i amddiffyn eich hun a dangos i chi lle i fynd i gael help os bydd ei angen arnoch.

Os oes gennych bryderon amdanoch chi eich hun, am ffrind neu am blentyn arall: Cliciwch yma.

Isod, mae rhai dolenni defnyddiol i wefannau a all roi gwybodaeth a chymorth ynglŷn â phynciau megis:

Beth yw Secstio?

Pan fydd pobl yn sôn am secstio, maen nhw fel arfer yn golygu anfon a derbyn:

  • lluniau noeth
  • lluniau mewn dillad isaf
  • lluniau rhywiol neu anweddus
  • negeseuon testun neu fideos anweddus.

Gallant gael eu hanfon gan ffrind, cariad neu rywun rydych wedi ei gyfarfod ar-lein.
Gall secstio ddigwydd yn hawdd. Gall pethau fynd o'i le –  hyd yn oed os nad oeddech yn bwriadu iddynt wneud.

Gall anfon neges destun, llun neu fideo rhywiol fod yn beryglus os caiff ei rannu â'r person anghywir. Unwaith y byddwch yn anfon neges destun, nid oes rheolaeth gennych am yr hyn sy'n digwydd iddi. Hyd yn oed os caiff ei phostio ar-lein gallwn eich helpu. Cliciwch YMA am gyngor ar Secstio.

Zipit App

Mae ZIPIT yn ap i'ch helpu i gadw rheolaeth ar eich sgwrs.

Os bydd rhywun yn ceisio gwneud i chi anfon lluniau noeth ohonoch chi eich hun, defnyddiwch y lluniau ar Zipit i helpu i gadw rheolaeth ar y sefyllfa.

Gall Zipit eich helpu i gael sgwrs fflyrtiog yn ôl ar y trywydd cywir. Mae'n llawn ymatebion gwych ac awgrymiadau i'ch helpu i gadw mewn rheolaeth o'ch sgwrs.

Gallwch hefyd rannu lluniau o Zipit drwy apiau eraill fel Whatsapp neu Instagram, yn dibynnu ar y math o ffôn sydd gennych a pha apiau sydd gennych ar y ffôn hwnnw.

Ar gael ar Apple ac Android. Lawrlwythwch drwy Google Play neu'r Apple App Store.

NSPCC

Mae'r NSPCC yn rhoi gwybodaeth i blant a phobl ifanc ynglŷn â cham-drin ac esgeulustod, megis sut i aros yn ddiogel, a chyngor ar fwlio. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth cyfrinachol i alluogi plant a phobl ifanc i adrodd am bryderon sydd ganddynt amdanynt eu hunain, eu brodyr neu chwiorydd, neu eu ffrindiau.

Barnardo's

Mae Barnado's yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw ar ymylon cymdeithas ac sy'n ei chael hi'n anodd goresgyn yr anfanteision y mae tlodi, trais a gwahaniaethu yn ei achosi.

 


Llyfryn Camfanteisio Rhywiol ar Blant Barnado's

Meic

Llinell gymorth eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru yw Meic. Yn rhoi cyngor ar faterion dros y ffôn, drwy negeseuon testun ac ar-lein.

 

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn siarad ar ran plant a phobl ifanc, gan roi gwybodaeth iddynt am hawliau a'u hannog i ddweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio ar eu bywydau.

Hawliau Plant yng Nghymru

Childrens Rights Banner Homepage

Hawliau Plant yng Nghymru - Mae plant a phobl ifanc yn hanfodol i roi'r CCUHP ar waith yn llawn yng Nghymru. Mae angen iddynt fod yn llwyr ymwybodol o'u hawliau CCUHP a sut i'w hawlio ac mae hefyd angen iddynt fod yn rhan o'r gwaith monitro ac adrodd ar hawliau plant yn ogystal â chymryd rôl weithredol yn y broses o ddwyn y Llywodraeth i gyfrif i barchu, amddiffyn a bodloni hawliau plant.

Mae’r hawliau ar y rhestr yn bethau y mae ar blant a phobl ifanc eu hangen i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel, bod ganddynt y pethau y mae arnynt eu hangen i oroesi a datblygu, a’u bod yn cael dweud eu dweud ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Yn 2011 fe ddaeth y CCUHP yn rhan o gyfraith domestig Cymru – y wlad gyntaf ym Mhrydain i wneud hynny. 

Funky Dragon

CYPAW Logo

Draig Ffynci - Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru - yw'r sefydliad mantell i blant a phobl ifanc er mwyn hyrwyddo a chefnogi rhoi'r CCUHP ar waith yng Nghymru. Eu nod yw rhoi'r cyfle i bobl 0 – 25 mlwydd oed leisio eu barn ar faterion sy'n effeithio arnynt. Mae cael y cyfle i gymryd rhan ac i rywun wrando arnoch yn hawl sylfaenol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Mae Draig Ffynci yn anelu at gynrychioli ystod mor eang o blant â phosibl ac i weithio gyda'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn cyflawni newid.

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM BLENTYN -Cliciwch yma.

OS BYDD GENNYCH BRYDERON AM OEDOLYN - Cliciwch yma.