Ffilm Diogelwch ar Snapchat yn ennill gwobr ym Mae Caerdydd

Enillodd ffilm fer a grëwyd gan ddisgyblion drama Blwyddyn 12 Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yr ail wobr mewn cystadleuaeth genedlaethol. Mae’r ffilm fer, sy’n ffocysu ar godi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch ar-lein rhwng pobl ifanc, ac yn amlygu ac annog trafodaeth am y risgiau yn ymwneud â’r camddefnydd o Snapchat yn benodol. Hwyluswyd y prosiect gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Cafodd y ffilm ei ddanfon mewn i gystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018, sy’n cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Thema’r gystadleuaeth eleni oedd ‘Creu, cysylltu a rhannu parch’. Gofynnodd y gystadleuaeth i blant a phobl ifanc Cymru i fynegi eu teimladau am sut mae bod ar-lein yn eu gwneud i deimlo drwy eiriau, celf, ffilm neu gerddoriaeth.

Yn dilyn proses beirniadu drylwyr, mi wnaeth y ffilm gyrraedd rownd fuddugol y gystadleuaeth. Derbyniodd y criw wahoddiad i fynychu digwyddiad Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018, y cynhalir gan Lywodraeth Cymru, South West Grid for Learning a UK Safer Internet Centre yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar Ddydd Mawrth 6 Chwefror 2018. Cafwyd llwyddiant gyda’r ffilm yn derbyn yr ail wobr yn y categori Uwchradd, wrth iddo gael ei ddewis allan o 300 o geisiadau ar draws Gymru. Cyflwynodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y wobr i’r disgyblion, a bydd yn cael eu harddangos yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Ar ran y Cyngor, cymeradwyaf y gwaith caled a wnaed gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a oedd yn rhan o'r ffilm hon o'r dechrau, gan drafod syniadau, ysgrifennu'r plot, actio, ffilmio a golygu'r ffilm derfynol. Cafodd y ffilm ei ddewis fel un o’r ceisiadau buddugol ar gyfer y gystadleuaeth, allan o 300 o geisiadau eraill ar draws Gymru. Rwy’n hynod o falch clywed bod y ffilm wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Mae hyn yn gydnabyddiaeth wych sy’n adlewyrchu cyflawnant y bobl ifanc mewn creu adnodd llwyddiannus, a fydd o gymorth i eraill ar draws y sir. Diolch i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a Phrifysgol Aberystwyth am gefnogi’r disgyblion i greu’r ffilm hon”.

Dywedodd Siôn Hurford, disgybl Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a fu ynghlwm â chreu a chynhyrchu’r ffilm fer, “Mae’n bwysig iawn ein bod yn addysgu ac yn codi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n perthyn i gamddefnyddio gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Ar gyfer y ffilm hon, penderfynom ganolbwyntio ar ddiogelwch snapchat, gan fod yr ap yn hynod o boblogaidd ymysgu pobl ifanc. Mae’r ffilm yn portreadu gwahanol beryglon a’r effeithiau negyddol gall ddilyn o gamddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, megis seibr-fwlio, pwysau gan gyfoedion a rhannu lluniau anaddas. Rydym yn gobeithio bydd y ffilm yma yn tynnu sylw at y peryglon yma ac yn annog trafodaethau agored ac onest o amgylch diogelwch ar-lein mewn ysgolion a cholegau ar draws Geredigion”.

Cynlluniwyd y ffilm i gael ei ddefnyddio fel adnodd addysgol o fewn ysgolion uwchradd, Hyfforddiant Ceredigion Training a Choleg Ceredigion. Mae DVD o’r ffilm ar gael am ddim i’r sefydliadau yma, ar gael trwy gysylltu â Lowri Evans, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 01545 572 352 neu lowri.evans@ceredigion.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad neu am gyngor neu adnoddau i helpu plant a phobl ifanc gadw’n ddiogel ar-lein, ewch i’r wefan https://www.saferinternet.org.uk/.

Lluniaus:

  1. (Ch-Dd) Rebeca Davies (Gweithwraig Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion), Siôn Hurford, Owain Gruffydd, Anest Eirug, Eluned Owen (disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig), Lowri Evans (Dirprwy Brif Swyddog Ieuenctid, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion) yn nigwyddiad Diwrnod Defnyddio’r Rhwngrwyd yn Fwy Diogel 2018 ym Mae Caerdydd.
  2. (Ch –Dd) Kirsty Williams AS ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Owain Gruffydd, Eluned Owen, Anest Eirug, Siôn Hurford, (disgyblion Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig) yn derbyn eu gwobr ar gyfer cystadleuaeth Diwrnod Defnyddio’r Rhwngrwyd yn Fwy Diogel 2018 ym Mae Caerdydd.