Adolygiad Ymarfer Plant Cryno CYSUR 2 2020

Heddiw, mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant Cryno, CYSUR 2 2020, mewn perthynas â baban a oedd yn byw ym Mhowys.

Cynhaliwyd yr Adolygiad yn unol â’r ddeddfwriaeth statudol a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r arweiniad sy’n cyd-fynd â hi, sef Gweithio Gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl – Cyfrol 2 – Adolygiadau Ymarfer Plant (Llywodraeth Cymru, 2016). 

Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud y datganiad canlynol i gyd-fynd â chyhoeddi’r adroddiad.

‘Hoffai Cyngor Sir Powys gyfleu ei gydymdeimlad diffuant i deulu’r plentyn a phawb y mae’r farwolaeth drasig hon wedi effeithio arnynt. 

Bu’r adolygiad yn gyfle i fyfyrio a rhannu dysgu ymhlith yr holl sefydliadau partner ac ymarferwyr ar sail amlasiantaeth ac rydym yn cydnabod ymrwymiad a chyfraniad y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y broses adolygu.

Gobeithiwn y bydd yr adroddiad yn cyfrannu at ddysgu parhaus ehangach yn ymwneud â nifer o faterion diogelu allweddol.’

Bydd Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni cynllun gweithredu ac mae wedi ymrwymo i sicrhau y bydd gwersi’n parhau i gael eu dysgu a gwasanaethau’n parhau i wella. 

Cyhoeddi Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig

Gweld yr Adroddiad Adolygiad Ymarfer Plant