Cyhoeddi Adroddiad Adolygiad Ymarfer Oedolion Estynedig
Mae Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru bellach wedi cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Oedolion Estynedig, cyfeirnod CWMPAS 5 2019, mewn perthynas â pherson hŷn a oedd yn byw yn Sir Gaerfyrddin.
Comisiynwyd yr Adolygiad gan Fwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac fe’i cynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth statudol a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r canllawiau cysylltiedig Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl Cyfrol 3 – Adolygiadau Ymarfer Oedolion (Llywodraeth Cymru, 2016).
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud y datganiad canlynol i gyd-fynd â chyhoeddi'r adroddiad.
‘Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn canfyddiadau'r Adolygiad. Bellach bydd Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni cynllun gweithredu, ac maent wedi ymrwymo i sicrhau bod unrhyw wersi’n parhau i gael eu dysgu a gwasanaethau’n cael eu gwella.
Mae'r adolygiad wedi bod yn gyfle i adlewyrchu a rhannu dysgu ymhlith yr holl sefydliadau partner ac ymarferwyr ar sail aml-asiantaeth, ac rydym yn cydnabod ymrwymiad a chyfraniad y rhai sydd wedi cymryd rhan yn y broses adolygu.’