Beth gallaf ei wneud os byddaf yn poeni am blentyn?

Rhowch wybod i rywun a all helpu.

Mae gan aelodau o'r cyhoedd rôl bwysig i'w chwarae wrth helpu i amddiffyn plant rhag niwed.

Os byddwch yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin, dywedwch wrth:

  • Y Gwasanaethau Cymdeithasol ar y rhifau isod:
  • Yr Heddlu ar 101, neu'r
  • NSPCC

   Gall yr asiantaethau hyn helpu.

MEWN ARGYFWNG DYLECH FFONIO 999 BOB AMSER.

Ni ddylech geisio datrys y broblem eich hun, na chyhuddo camdriniwr honedig.

Peidiwch â phoeni y gallech fod wedi gwneud camsyniad. Mae'n well dweud wrth rywun sy'n gwybod am amddiffyn plant na dweud dim byd.

Beth os bydd plentyn neu berson ifanc yn dweud wrthyf ei fod yn cael ei gam-drin?

  • Dangoswch eich bod yn gwrando a'ch bod yn cymryd y mater o ddifrif.
  • Ysgrifennwch yr hyn rydych yn ei glywed gan ddefnyddio'r union eiriau lle bo'n bosibl.
  • Esboniwch y bydd angen i chi rannu'r hyn rydych wedi ei glywed â rhywun sy'n gwybod am amddiffyn plant.
  • Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu neu'r NSPCC a rhowch wybod iddynt beth rydych chi'n ei wybod.

Beth y dylwn i ei wneud os byddaf yn poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn neu berson ifanc?

  • Peidiwch â diystyru eich pryderon na'i adael i rywun arall i weithredu.
  • Ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu neu'r NSPCC a rhowch wybod iddynt beth sy'n eich pryderu.
  • Â phwy y dylwn i gysylltu?
Ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth

Ffurflen atgyfeirio aml-asiantaeth

 

Os byddwch yn pryderu am ddiogelwch neu les plentyn, cysylltwch â:

Sir Gaerfyrddin:

  • Yn ystod Oriau Swyddfa:
  • Tîm Atgyfeirio Canolog – Ffôn: 01554 742322, Ffacs: 01554 742176
  • E-bostCRTChildren@carmarthenshire.gov.uk
  • Y Tu Allan i Oriau Swyddfa: Llinell ofal – Ffôn: 01558 824283 & 0300 333 2222.

Ceredigion:

  • Yn ystod Oriau Swyddfa: Y Ganolfan Gyswllt – Ffôn:  01545 574000, Ffacs: 01545 574002
  • E-bost: contact-socservs@ceredigion.gov.uk
  • Y Tu Allan i Oriau Swyddfa: Tîm Dyletswydd Argyfwng – Ffôn: 0845 6015392.

Sir Benfro:

  • Yn ystod Oriau Swyddfa:  Tîm Asesu - Ffôn: 01437 776444
  • E-bost:  ccat@pembrokeshire.gov.uk
  • Y Tu Allan i Oriau Swyddfa: Tîm Dyletswydd Argyfwng – Ffôn:  08708 509508

[Mae gwasanaeth ymateb meddygon ar alwad yn cymryd galwadau y tu allan i oriau swyddfa].

Powys: